Rhaid i Ddatganiad yr Hydref ymdrin â ‘thwll du Brexit’ Cymru

landscape_horse_carriage.jpg

Mae Plaid Cymru wedi mynnu bod Llywodraeth y DG yn ymrwymo i gau ‘twll du Brexit’ Cymru, ac yn gwneud iawn am golli cynlluniau cyllido’r UE gyda chronfa cydgyfeiriant gan Lywodraeth y DG.

Dywed llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, fod yn rhaid cadw at addewidion a wnaed gan yr ymgyrch Gadael y byddai arian yn dod gan Lywodraeth y DG yn lle cronfeydd yr UE i Gymru.

Mae Cymru ar ei hennill o raglenni’r UE i helpu gwledydd sy’n tanberfformio o ganlyniad i berfformiad economaidd sy’n gyson is nac y dylai fod. Mae rhanbarthau o Ewrop gyda GDP sy’n is na chyfartaledd yr UE o 75% yn gymwys am gyllid ychwanegol.

Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Canghellor i amlinellu ‘strategaeth cydgyfeiriant’ newydd wedi Brexit, er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cyfoeth rhwng gwledydd y wladwriaeth Brydeinig, ac i ymrwymo i gael rhaglen sy’n cyfateb i raglenni cyllido’r UE ar sail anghenion ar lefel y DG.

Cyn Datganiad yr Hydref, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Wedi 35 mlynedd o bolisi economaidd Thatcheraidd ffyrnig gan San Steffan, y DG yw’r wladwriaeth fwyaf anghyfartal yn yr holl Undeb Ewropeaidd.

“Llundain Fewnol yw’r rhanbarth gyfoethocaf yn yr UE tra bod y cymunedau rwyf i’n eu cynrychioli yng Nghymru ymysg y tlotaf, er mai rhyw brin deirawr i ffwrdd y maent. Mae’r un peth yn wir am Gernyw, gogledd Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Nid ffeonomen naturiol mo hyn – does dim adnoddau naturiol yn gorwedd dan strydoedd Llundain: cyfoeth gwneud ydyw. Polisi San Steffan sydd wedi peri bod Llundain yn ddinas lwyddiannus, a pholisi San Steffan sydd wedi rhwygo calon gweithgynhyrchu allan o Gymru.

“Gwaddol y polisi economaidd unllygeidiol seiliedig ar filltir sgwâr Dinas Llundain yw chwyddiant mewn prisiau tai a gwario, ac y mae wedi arwain at anghydraddoldebau erchyll mewn cyfoeth o fewn y DG. Dylai hyn godi cywilydd ar San Steffan, ond yn hytrach maent yn defnyddio hyn fel arf – ystadegyn i dynnu sylw ato wrth ein hatgoffa am ein dibyniaeth ar Lundain, i gyfiawnhau buddsoddiad arall eto fyth yn yr un gornel o’r DG.

“Maent yn dweud wrthym y bydd buddsoddiadau fel HS2 a Crossrail o les i Gymru pan fyddwn eisiau teithio i Loegr, ond yn y cyfamser, all pobl Cymru ddim teithio o’r de i’r gogledd mewn trên yn eu gwlad eu hunain o fewn ein ffiniau ein hunain.

“Cydnabu’r Undeb Ewropeaidd yr anghydraddoldeb sydd yn y wladwriaeth Brydeinig, gan gyllido prosiectau datblygu econom aidd yng Nghymru yn sgil hynny. Yr UE wnaeth hynny, nid y DG.

“Dywedwyd wrthym yn ystod ymgyrch y refferendwm y byddai San Steffan yn rhoi arian yn lle holl gyllid yr UE petaem yn gadael. Rhaiod i’r Canghellor gadw at yr addewid hwnnw a defnyddio Datganiad yr Hydref i gyhoeddi strategaeth cydgyfeiriant newydd wedi Brexit.

“Bydd colli’r ffrydiau cyllido hyn yn gadael Cymru gyda thwll du wedi Brexit.

“Rhaid i’r Canghellor sefydlu rhaglen wedi ei chyllido gan y Tryslorys i gymryd lle cronfeydd strwythurol yr UE, ac fe ddylai gyhoeddi Mesur Tegwch Economaidd i sicrhau bod gwariant ar seilwaith yn cael ei daenu’n deg a chyfartal ar draws y wladwriaeth Brydeinig, nid yn ne-ddwyrain Lloegr yn unig.

“Dywedwyd wrth Gymru na fyddai’n colli ceiniog petaem yn gadael yr UE. Nawr yw’r amser i’r Canghellor gadw at yr addewid hwnnw.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.