Gofynion masnach Awstralia yn amlygu’r angen am agwedd bedair-cenedl at gytundebau masnach

joni_europe.jpg

Dylai Cymru gael yr hawl i wahardd cytundebau masnach sydd yn niweidio ei buddiannau cenedlaethol, dywedodd Plaid Cymru, yn dilyn datgeliadau fod San Steffan ar fin llofnodi cytundeb masnach gydag Awstralia, a fyddai’n cynnwys agor marchnadoedd Cymru i gig eidion wedi ei drin â hormonau o Awstralia.

Galwodd y Blaid am “agwedd bedair-cenedl" at fasnachu wedi Brexit, gan roi llais cyfartal i’r pedair cenedl ar fasnach. 

Cyfeiriodd Plaid Cymru at Wlad Belg fel enghraifft o’r hyn sydd, yn eu barn hwy, yn agwedd aeddfed tuag at fasnach, gyda’r llywodraeth ffederal yn mynnu cadarnhad tair o’u rhanbarthau - Fflandrys, Wallonia a Rhanbarth Brifddinas Brwsel – cyn gallu llofnodi unrhyw fargen bosib ar fasnach. Caniataodd y system i senedd ranbarthol Wallonia wahardd cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chanada yn 2016, ar y sail y buasai’r cytundeb wedi gadael ei sector amaethyddol yn agored i gystadleuaeth gan ffermwyr o Ganada. Yn y pen draw, cytunodd y cyfan o 28 Aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i holl ofynion Wallonia, gan baratoi’r ffordd i weithredu’r cytundeb masnach â Chanada.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar fasnach ryngwladol, Jonathan Edwards AS, wedi rhybuddio y byddai caniatáu mewnforio cig eidion a driniwyd â hormonau, a waharddwyd yn yr Undeb Ewropeaidd ers 1981, fel rhan o gytundeb masnach gydag Awstralia yn golygu y byddai mewnforion rhad yn llifo i’r fasnach gartref, ac yn peryglu sector amaethyddol Cymru. Rhybuddiodd hefyd y byddai gollwng y gwaharddiad ar gig eidion a driniwyd â hormonau gael effaith andwyol ar iechyd dynol yng Nghymru.

Gall hormonau a ddefnyddir mewn gwartheg y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd gynyddu swm y pwysau maent yn ennill o fwy na 10 y cant y dydd, gan leihau’r amser a gymer i besgi’r anifeiliaid ar gyfer y farchnad. Gwaharddwyd yr arfer hwn yn yr Undeb Ewropeaidd ers 1981 ar y sail fod o leiaf un o’r hormonau a ddefnyddir yn gallu achosi canser.

Yn ei sylw, meddai llefarydd Plaid Cymru ar fasnach ryngwladol, Jonathan Edwards AS:

"Mae’r datgeliad fod San Steffan yn paratoi i gytuno i alwadau gan Awstralia y dylem ollwng y gwaharddiad ar gig eidion a driniwyd â hormonau er mwyn dod i gytundeb masnach yn darlunio’n union pam fod arnom angen agwedd bedair-cenedl at fasnach wedi Brexit.

"Nid yn unig y caiff hyn effaith ar iechyd dynol, gyda rhai o’r hormonau a ddefnyddir yn cael eu hystyried gan yr Undeb Ewropeaidd i achosi canser, bydd yn anhraethol niweidiol i’n sector amaethyddol ni, sydd mor bwysig i’n heconomi.

"Byddai cytuno i alwadau o’r fath yn arwain at lif o fewnforion rhad o ansawdd isel yn dod i’n marchnad ni, gan gystadlu’n annheg yn erbyn ein ffermwyr ein hunain. Gŵyr yr Awstraliaid beth maen nhw’n wneud - byddai cael mynediad at ein marchnad ni yn newid popeth i’w ffermwyr hwy, ond gallai’n hawdd fod yn hoelen olaf yn arch ein ffermwyr ni, sydd wedi eu hesgeuluso ers yn rhy hir o lawer gan y Llywodraeth hon yn San Steffan.

"Dyma’n union pam fod angen i ni fabwysiadu model Gwlad Belg o drafodaethau masnach yn y Deyrnas Gyfunol, gyda’r pedair gwlad yn cael llais. Efallai nad yw amaethyddiaeth yn flaenoriaeth i Liam Fox yn Lloegr, ond yn sicr y mae i Gymru. Yn 2016, gallodd rhanbarth Wallonia yng Ngwlad Belg ennill consesiynau gan 27 gwlad arall yr Undeb Ewropeaidd wrth drafod cytundeb masnach gyda Chanada, er mwyn amddiffyn ei sector amaeth ei hun – agwedd aeddfed yw hynny at drafod cytundebau masnach, ac agwedd yw hon y mae’n rhaid i’r Deyrnas Gyfunol fabwysiadu."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.