UE: Ateb eich cwestiynau

Campaign_Image_2_1.png

Sut all Plaid Cymru fod dros annibyniaeth i Gymru ond yn dymuno aros o fewn yr UE?

Mae’r ddau yn mynd law yn llaw. Mae pob aelod wladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn annibynnol. Maen nhw’n dewis gweithio gyda’i gilydd er mwyn cyflawni nodau cyffredin. Ydy, mae hynny’n golygu rhannu ychydig o sofraniaeth – yn wirfoddol. Mae hynny’n hollol wahanol i’r Deyrnas Gyfunol (DG) sydd yn gweithio er mwyn cadw cymaint o bŵer â phosib yn San Steffan ac sydd yn gwrthod rhannu ariannu teg a phwerau democrataidd sylfaenol gyda Chymru. Cred Plaid Cymru fod Cymru’n well ei byd o fewn yr Undeb Ewropeaidd: yn gymdeithasol, yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn ddiwyllianol.

Mae nod cyntaf cyfansoddiad Plaid Cymru yn datgan: "I sicrhau annibyniaeth i Gymru yn Ewrop".

Ni fydd pleidlais i aros o fewn yr UE yn sicrhau statws aelodaeth lawn i Gymru ond fe fydd yn caniatau i ni weithio gyda’n partneriaid mewn cenhedloedd Ewropeaidd eraill a sicrhau llais cryfach i Gymru. Gallwn barhau hefyd i weithio dros UE mwy agored, atebol ac effeithiol.

Yn sicr, dyw Cymru ddim yn bartner cydradd o fewn y DG. Mae gyda ni lai o bwerau ac mae’r system ariannu’n anheg. Er gwaethaf y gwthio cyson, does dim llawer o arwydd o newid cyfansoddiadol o fewn y DG fydd o fudd i Gymru. Tu allan i’r UE, fe fyddwn mewn llawer gwanach sefyllfa o’r herwydd.

Mae’r sawl sydd yn ymgyrchu dros adael yn hawlio eu bod am gymryd grym yn ôl. Golyga hynny cymryd grym yn ôl i San Steffan ac i ffwrdd o Gymru. Dymunwn gael dyfodol gwell i Gymru a gall yr UE ein helpu i gyflawni hynny.

Fel y dywedodd Alex Salmond, "daw sofraniaeth unigol gwlad allan o ddylanwad, nid grym, o bŵer meddal yn hytrach na chaled, o hunan-ddiddordeb goleuedig, nid hunan-ddiddordeb yn unig." Dyna pam mae’r SNP yn gweld fod aros o fewn yr UE mor hanfodol i ddyfodol yr Alban.

A ddylai’r Gymraeg fod yn Iaith Swyddogol?

Dylai. Mae’n iaith swyddogol yng Nghymru a dylai Llywodraeth y DG hysbysu’r UE y dylai fod ganddi statws swyddogol yn Ewrop hefyd – fel wnaeth Llywodraeth Iwerddon yn 2007. Mae ein pobl ifanc dwyieithog dan anfantais oherwydd er eu bod yn siarad dwy iaith, dyw un o’r rhain – y Gymraeg – ddim yn cael ei chydnabod fel cymwyster i allu gweithio o fewn yr UE. Dymunwn gael cyfleoedd cyfartal i bobl ifanc o Gymru.

Yn dilyn ymgyrch hir, enillodd Plaid Cymru statws cyd-swyddogol i’r Iaith Gymraeg felly fe allwch gyfathrebu â sefydliadau’r UE yn y Gymraeg a gellir ei siarad yng Nghyngor y Gweinidogion a Phwyllgor y Rhanbarthau. Er mwyn mynd ymhellach, mae angen Llywodraeth y DG arnom i weithredu.

Onid yw’r UE yn costio gormod?

Na. Mae Senedd y DG yn San Steffan yn costio £5.51 y person y flwyddyn i’w redeg – llawer mwy na Senedd Ewrop sydd yn costio £2.34 y person y flwyddyn. Mae gan senedd y DG 500 o aelodau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Senedd Ewrop 751 aelod o 28 aelod wladwriaeth. Mae’n werth da am arian o’i gymharu!

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd – sef gwasanaeth sifil yr UE – yn cyflogi llai o bobl na’r swyddfa Gartref (23,000 o gymharu â 25,850). Dyw e’ ddim llawer mwy na gwasanaeth sifil Cyngor Dinas Caerdydd (18,000) ac yn ddim o gymharu â gweithwyr mewn Llywodraeth leol yng Nghymru (174,000).

Fe glywais nad yw cyfrifon yr UE heb eu cwblhau ers blynyddoedd. Am beth mae hwn yn sôn?

Hen chwedl yw hwnna. Mae cyfrifon yr UE yn cael eu llofnodi bob blwyddyn. Daethpwyd o hyd i dwyll mewn 0.3% yn unig o holl wariant yr UE. Cafodd y stori gamarweiniol hon ei seilio ar adroddiad cymhleth gan y Llys Awdit Ewropeaidd ac fe’i ddefnyddir fel esgus i ymosod ar yr UE. Dyw e ddim yn wir o gwbl.

Beth am Ymfudo?

Hyd at 2011, roedd dinasyddion o’r UE oedd yn byw yn y DG yn cyfrannu bron i £5 biliwn yn fwy i economi’r DG nac oedden nhw’n ei gymryd allan yn nhermau iechyd, addysg neu wasanaethau cyhoeddus eraill. Mewn geiriau eraill, maen nhw o fudd i’r economi ac yn gwneud Cymru’n well lle i bawb i fyw ynddi.

Un o gonglfeini’r Farchnad Sengl Ewropeaidd yw symudiad rhydd gweithwyr. Gall pobl ifanc yn enwedig gael profiad gwaith gwerthfawr a dysgu medrau newydd mewn gwledydd eraill.Mae o fudd i weithwyr, busnesau a chymdeithas – ac mae’n gweithio’r ddwy ffordd.

Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod mewnfudwyr o’r UE yn gwneud cyfraniad net o £55 yr eiliad i’r DG!

Dymuna Plaid Cymru weld Cymru’n dod yn wir genedl o loches ar gyfer ffoaduriaid sydd yn ffoi o ryfel a gorthrwm. Dymunwn warae ein rhan mewn datblygu ymateb dyngarol ac effeithiol gan yr UE i’r argyfwng.

Pa wledydd eraill sydd wedi gadael yr UE?

Does dim un wedi. Dyna pam mae hi mor anodd i ddarogan beth fyddai’n digwydd a pha mor hir fyddai hynny’n cymryd. Does neb wir yn gwybod.

A fydden ni’n cadw hawliau gweithwyr, cyfreithiau amgylcheddol, rheolau diogelu bwyd ac yn y blaen?

Does dim sicrwydd o unrhywbeth. Os yw’r DG yn gadael, bydd rhaid dadwneud yr holl ddeddfwriaeth. Mae’n anhebygol y byddai Llywodraeth Doriaidd y DG yn cyflwyno cyfreithiau tebyg. Dywedodd adroddiad a gyhoeddwyd gan y TUC y byddai pleidlais i adael yn cael “oblygiadau sylweddol ar hawliau gweithwyr". Mae Cyfeillion y Ddaear yn rhagweld y byddai pleidlais i adael yr UE yn arwain at "erydu polisi amgylcheddol… sydd hefyd yn peri risg o niwed sylweddol i’r DG".

A yw’r DG yn colli’r bleidlais bob tro yn yr UE, felly na fyddai hi’r un peth i Gymru annibynnol hefyd?

Yn syml, na. Ar faterion mawr, gall yr UE weithredu yn unig pan fydd y 28 aelod wladwriaeth i gyd yn cytuno. Mae deddfwriaeth yn dibynnu ar gytundeb ymhlith Senedd Ewrop a’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd fyddwch chi’n eu hethol. Fodd bynnag, oherwydd y gyfrinachedd ynglŷn â’r penderfyniadau a wneir pan fydd llywodraethau’n cwrdd yn y Cyngor, mae’n hawdd i gael yr argraff hwnnw. Dyna pam y buom ni’n galw am i’r system ddeddfu gyfan gael ei wneud yn gyhoeddus ac i gofnodion a dogfennau gael eu cyhoeddi. Rydym yn galw am weld Ewrop agored.

Fe glywn o hyd fod y DG yn talu £5 miliwn y dydd mewn i’r UE. Ydy hynny’n gywir?

Na. Mae’r DG yn cael llawer o arian yn ôl o ganlyniad i’r ad-daliad a enillodd Margaret Thatcher a thrwy wahanol raglenni ariannu.
Yn achos Cymru, mae’r darlun yn wahanol iawn. Oherwydd gwendid ein heconomi, yn enwedig yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, fe gawn symiau anferth o ariannu rhanbarthol gan yr UE. Mae hyn yn dangos cydsafiad yr UE rhwng yr ardaloedd tlotaf a’r cyfoethocaf. Felly mae pob person yng Nghymru yn cael llawer mwy o arian yn ôl gan yr UE na fyddwn yn ei roi mewn. Rydym ni eisiau’r gefnogaeth yma er mwyn ein helpu ni i gynyddu cyfoeth ac adeiladu’r economi, fel y gallwn ddod yn un o ranbarthau mwy cyfoethog yr UE, heb fod angen ariannu rhanbarthol arnom.

Felly rho dri rheswm syml i aelod o Blaid Cymru bleidleisio i aros o fewn yr UE

- Oherwydd ein bod yn dymuno gweld Cymru’n genedl annibynol, llwyddianus, ddwyieithog Ewropeaidd
- Oherwydd fod yr UE yn bartneriaeth rhyngwladol unigryw sydd wedi atal rhyfel yn Ewrop ac all dyfu’n Ewrop gwirioneddol o’r bobl
- Oherwydd fod Cymru’n well ei byd yn gymdeithasol, amgylcheddol, diwyllianol ac economaidd o fewn yr UE a dylai’n wyrion gael y cyfleoedd a gawsom ni i deithio, dysgu a mwynhau Ewrop


Dangos 1 ymateb

  • followed this page 2016-06-10 15:00:28 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.