'Brexit: Mae argyfwng cyfansoddiadol Cymreig ar droed' - Jonathan Edwards AS

Jonathan_Edwards1bsmall.jpg

Yn ysgrifennu yn y Times Red Box, mae Jonathan Edwards AS yn trafod y peryglon mae Brexit yn achosi i Gymru ac yn cynnig cyngor i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut i fynd ati i amddiffyn buddiannau Cymru.

Yn dilyn canlyniad y refferendwm mae’r effaith ar ddyfodol yr Undeb wedi bod ymhlith y prif ystyriaethau. Gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros, ymddengys yn anochel y bydd nawr ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban gyda chanlyniad ‘Ie’ y tro hwn. Yn yr un modd, gyda phleidlais aros yng Ngogledd Iwerddon, mae’r posibilrwydd o Iwerddon unedig yn fwy real nag erioed.

Bydd nifer yn honni drwy gefnogi’r penderfyniad i adael yr UE, mae Cymru wedi pleidleisio o blaid ei amherthnasedd ei hun. O gymharu â llywodraeth yr Alban, pa ddylanwad posib all Cymru ei gael? Fel y dywedodd Ysgrifennydd Cymru’r wythnos diwethaf, pleidleisiodd Cymru i adael felly pam ddylai llywodraeth y DG ad-dalu’r £650m y flwyddyn mae’n ei dderbyn mewn nawdd rhanbarthol, cefnogaeth amaethyddol a chyllid ymchwil i addysg uwch? Mae’r addewidion a wnaed yn ystod y refferendwm i ad-dalu a gwella nawdd Ewropeaidd eisoes yn atgof.

Serch hyn, pan pleidleisiodd pobl, nid oedd yr holl opsiynau economaidd masnach ôl-Brexit i gyd ar y papur pleidleisio – ac mae buddiannau economaidd gwahanol Cymru a’r DG ar fin dod yn fater gwleidyddol diffiniol gyda goblygiadau cyfansoddiadol arwyddocaol posib.

Tra bod gan Brydain ddiffyg nwyddau masnach o £120 biliwn, mae gan Gymru warged masnach o dros £5 biliwn. Economi gynhyrchu yw’r economi Gymreig – un sydd angen mynediad i farchnadoedd ar gyfer nwyddau, ac felly mae mynediad di-dariff i’r farchnad sengl Ewropeaidd yn rheidrwydd economaidd.

Rhaid i’r llywodraeth nawr ymrwymo i sicrhau mynediad cyflym i’r Ardal Masnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) ac yna Statws Ardal Economaidd Ewropeaidd. Dylid tanio’r gwn ac Erthygl 50 mor fuan â phosib am na ellir cyflawni’r amcanion hynny nes y bydd y broses o adael yr undeb wleidyddol Ewropeaidd ar droed.

Mae ansicrwydd yn wenwyn economaidd. Yn dilyn canlyniad y refferendwm rydym eisoes wedi gweld Tata yn cyhoeddi eu cynlluniau i gyfuno gweithrediadau ‘European Steel’ gyda ThyssenKrupp. Gall hyn olygu ond un peth – cyfuno eu gweithrediadau dur yn Ijmuiden, yr Iseldiroedd a Duisburg, Yr Almaen. Bydd cwmni mwyaf Cymru, Tata Port Talbot, yn glaf anochel wrth i’r cwmni ildio ymdrechion i werthu’r ased.

Fel y mae Fabian Zuleeg, pennaeth Y Ganolfan Bolisi Ewropeaidd, wedi dadlau pan ddaw’n fater o drafodaethau masnach gyda’r UE yn achos Brexit: “The political realities would not be very accommodating to the UK.” The cavalier attitude of the new government, therefore, is the political equivalent of playing kamikaze poker when your opponent holds all the cards.”

Peidied neb ag amau, breuddwyd cefnogwyr Brexit oedd nid yn unig i adael yr UE fel undeb wleidyddol, ond hefyd i drawsnewid y Wladwriaeth Brydeinig yn economi gasino o reoleiddio ysgafn a threthi isel, gyda chyn lleied a phosib o gysylltiadau masnach ffurfiol gyda'r farchnad sengl. Efallai y byddai'r sefyllfa 'Wild West' hon yn gweithio ar gyfer y Sector Gyllidol, ond byddai'n gwbl drychinebus i economi Cymru.

Mae’r sefyllfa Gymreig hyd yn oed yn fwy difrifol am fod gennym bortffolio allforio mwy amrywiol na gweddill y DG. Mae’r portffolio hwn yn cael ei gynorthwyo gan Bolisi Masnachol Cyffredin yr UE sy’n cynnig mynediad i dros gant o gytundebau masnach rydd ledled y byd. Bydd rhaid ail-negodi pob un o’r rhan unwaith y bydd y DG yn gadael yr UE. Tra ein bod yn cydnabod nad yw’n ateb perffaith, gall statws EFTA liniaru peth o’r difrod am ei fod yn cynnig 27 cytundeb masnach rydd ar draws 38 gwlad. Wrth gwrs, ni fydd hyn yn gweithio nes gweithredu Erthygl 50.

Ar ben hynny, wrth i ni ddechrau ar y broses lafurus o ail-gyflunio ein cysylltiadau masnach rhyngwladol rhaid cael dadl frys ar yr egwyddorion fydd yn ffurfio sail safle negodi’r DG.

O ystyried apwyntiadau allweddol diweddar y prif weinidog newydd, mae’n debyg fod gennym ymagwedd ‘mynediad i bob man’ ble nad yw hyd yn oed ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiogel. O gofio hyn, a’r cyd-destun datganoledig, dylid cadarnhau safbwynt masnach llywodraeth y DG nid yn unig gan y Tŷ Cyffredin ond hefyd gan y senedd-dai datganoledig, yn enwedig o ystyried fod cyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus wedi ei ddatganoli gan fwyaf.

Heb os, mae Cymru a San Steffan ar fin profi gwrthdrawiad arwyddocaol. Er lles pobl Cymru, mae fy nghenedl angen llywodraeth sy’n barod i warchod buddiannau cenedlaethol Cymru yn hytrach na moesymgrymu’n wasaidd i feistri San Steffan.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.