Amaeth

Mae Amaethyddiaeth yn parhau i fod yn ddiwydiant wrth galon economi Cymru. O fewn y diwydiant yma mae gan gynnyrch a gwasanaethau o Gymru enw da a chadarnhaol ar draws y byd. 

  • Mae bwyd a ffermio Cymru yn dod â £5.8 biliwn i’n heconomi bob blwyddyn.
  • Mae tua 60,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio ar ffermydd, gyda miloedd mwy wedi eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi a mânwerthu bwyd.

Beth yw manteision bod yn aelod o’r UE?

  • Mae’r UE yn gyfrifol am dderbyn dros 90% o allforion amaethyddol Cymru.
  • Cawn en hariannu’n sylweddol gan Frwsel; yn ystod y cyfnod rhwng 2007-2013, derbyniodd Gymru £2.2 biliwn gan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.
  • Mae Cymru’n parhau i gael dros £200 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr drwy’r CAP a’r Cynllun Taliad Sylfaenol.
  • Yn fwy na hynny, yn ystod y cyfnod rhwng 2014-2020, bydd Cymru’n derbyn £957 miliwn o nawdd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig – a daw £555miliwn o hynny o’r Undeb Ewropeaidd. Bydd Cymru fellly yn elwa gan tua £2bn yn ystod y cyfnod rhwng 2014-2020 gan daliadau CAP sydd yn cefnogi dros 80% o’n ffermydd.
  • Golyga’r cwymp diweddar yn y farchnad ar draws sectorau amaeth allweddol Cymru fod taliadau uniongyrchol yn parhau i fod mor bwysig ag erioed wrth helpu i ddigolledi ffermwyr am fethiant y farchnad, a helpu i reoli hydarthedd prisoedd ac i wobrwyo safonau uchel mewn ffermio.
  • Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgan y caiff buddiannau amaethyddiaeth Cymru eu gwasanaethu’n well drwy aros yn rhan o’r UE.
  • Mae cael mynediad at farchnadoedd yr UE yn hanfodol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru,yn enwedig cig oen a chig eidion.
  • Dangosodd ffigurau swyddogol yn 2014 y cafodd tua 35% o’r cig a gynhyrchwyd o ddefaid yng Nghymru ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd, a hyd at 93% o allforion cig
  • oen Cymreig. Bydd 93% o allforion cig eidion a 98% o allforion llaeth yn mynd i wledydd yr UE.
  • Mae’r farchnad ar gyfer cig coch yn Ewrop werth tua £200 miliwn y flwyddyn – gyda marchnad amdano sydd yn tyfu, fel prif gynnyrch arbenigol, yn enwedig yn yr Almaen.
  • Y llynedd, cafodd Hybu Cig Cymru gwerth £3.2 miliwn o nawdd gan Gomisiwn Ewrop ar gyfer hyrwyddo cig oen a chig eidion Cymru mewn marchnadoedd allweddol fel yr Iseldiroedd, Iwerddon, Ffrainc, yr Eidal, a’r Almaen.
  • Ar gyfartaledd bydd incwm busnes net fferm yng Nghymru wedi disgyn gan 25% yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2016, yn ôl ffigurau gan Lywodraeth Cymru. Ar gyfartaledd, disgynodd prisiau llaeth farmgate yn y DG gan fwy na 10c/litr o’i uchafbwynt ar ddiwedd 2013. Yn yr un modd cafodd cynhyrchwyr defaid eu taro’n galed, gyda phrisiau cyfartalog tua 20% yn is nag yn 2014. Yn ychwanegol i hyn, mae prisiau moch Prydeining yn 15-20% yn is na’r hyn oedden nhw flwyddyn yn ôl. Mae CAP yn helpu i fynd i’r afael â methiannau marchnadoedd amaethyddol er mwyn rhoi lefel teg o incwm i ffermwyr.

Beth fyddai’n digwydd pe baem yn gadael yr UE?

  • Byddai ffermwyr yn colli mynediad preferential at farchnad yr UE pe bai’r DG yn gadael yr UE heb wneud trefniant olynu.
  • Mae’r UE yn gorfodi tariff cyfartalog o dua 14% ar fewnforion amaethyddol o wledydd tu allan i‘r UE, gyda chyfraddau uwch ar eitemau unigol. Tu allan i’r farchnad sengl, gallai mewnforion llaeth ddenu tariff o 36%, a gallai mewnforion cig eidion fod rhwng 58 a 70%.
  • Pe baem yn gadael y farchnad sengl ac yn gorfod dibynnu ar reolau Sefydliad Masnach y Byd, gallai’r gost ychwanegol o allforio cig eidion o Brydain fod yn £240 miliwn y flwydyn, gyda £90 miliwn arall wedi ei ychwanegu at gost allforio cig oen.
  • Er bod gwledydd fel Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn aelodau o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ond ddim yn aelodau o’r UE, mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio’n llwyr gyda holl ddeddfwriaeth amgylcheddol, diogelwch bwyd a milfeddygol yr UE.
  • Wyddwn ni ddim i sicrwydd pa mor hir fyddai unrhyw drafodaethau yn eu cymryd gyda’r UE cyn gallu cynhyrchu cytundeb. Byddai gyda ni hyd at ddwy flynedd i sicrhau cytundeb gadael, ond gallai cytundeb masnach newydd gymryd mwy o lawer o amser. Mae cytundebau masnach blaenorol rhwng yr UE a gwledydd eraill wedi amrywio o ran hyd – yn gyffredinol ymddengys eu bod yn cymryd tua 7 mlynedd.
  • Pe bai cymorth CAP yn cael ei atal ar unwaith, byddai nifer o ffermydd y DG yn anhyfyw. Awgryma’r ffigurau diweddaraf o DEFRA bod 55% o gyfanswm incwm amaethyddol yn dod o CAP. Byddai gan gwymp sydyn y diwydiant ffermio draw-effeithiau difrifol hefyd, oherwydd bod ffermwyr yn cefnogi ystod amrywiol o fusnesau a chyfleoedd gwaith i bobl leol.
  • Mae llywodraethau olynol y DG wedi bod yn gwthio o fewn yr UE am ostwng cyllideb y CAP tra bod llywodraethau eraill o fewn yr UE wedi cefnogi rhoi cymorth i ffermwyr.
  • Cafodd ei awgrymu gan George Eustace y gallai’r gyllideb ar gyfer taliadau fferm gael ei dorri gan tua trydydd rhan. Cred nifer o bobl fod hwn yn amcan rhy geidwadol.
  • Does dim sicrwydd chwaith ynglŷn â pha ganran fyddai’n dod i Gymru. Pe bai cyfran Cymru yn adlewyrchu’r dyraniadau presennol, byddai Cymru yn waeth ei byd gan tua £85 miliwn y flwydyn.

Beth allen ni ei wneud yn well yn yr UE?

  • Dros y blynyddoedd, bu llywodraeth y DG yn amharod i ddefnyddio cronfeydd dewisol yr UE, a dyma un o’r prif resymau taw cyfran y DG o gronfeydd datblygu gwledig yw’r isaf o holl aelodau’r UE ar sail fesul hectar.
  • Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn penodi Pencampwr Diwydiant i hyrwyddo bwyd a ffermio o Gymru ymhlith y prif manwerthwyr a phroseswyr.
  • Byddem yn ceisio rhoi dewisiadau amgen ymarferol ar waith yn gynnar, i gymryd lle’r rheol llonyddwch fferm chwech dydd sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu symudiadau anifeiliaid ac sydd felly’n rhwystro hyblygrwydd busnes.
  • Byddem yn cynnal adolygiad Gweithio’n Gallach arall er mwyn sicrhau fod deddfwriaeth diweddar wedi bod yn gyfranogol ac yn deg ac nad yw’n cynyddu biwrocratiaeth yn ddiangen.
  • Byddai Plaid Cymru yn annog mwy o gyfranogaeth mewn cynlluniau amaeth- amgylcheddol drwy sicrhau fod cynllun fferm-rannol ar gael ac yn agored i bob ffermwr gyda’r isafswm o fiwrocratieth, ac y byddai’n gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu fyrdd blaengar lle gall mesurau amaeth-amgylcheddol a arianwyd gan y Cynllun Datblygu Gwledig, fel Glastir helpu i gyflenwi mwy o fuddion cyhoeddus.
  • Byddem yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill er mwyn datblygu strategaeth genedlaethol i warchod ffermau cyngor, a chynyddu caffael bwyd a diod o Gymru ymhlith gwasanaethau cyhoeddus.
  • Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn penodi 2018 fel Blwyddyn Genedlaethol Bwyd a Diod Cymru er mwyn hyrwyddo cynyrch ansawd da Cymru mewn ymgyrch ddwys wedi’i gynnal dros flwyddyn gyfan fyddai’n annog cwsmeriaid yn y DG a thramor i brynu mwy o gynnyrch o Gymru.
  • Byddem yn rhoi pwysau i ad-drefnu’r rheolau ynglŷn â’r ardoll ar gig coch er mwyn sicrhau bod yr ardoll a roddir ar dda byw Cymreig yn cael ei wario ar hyrwyddo cynnyrch o Gymru. Golyga’r rheoliadau presennol fod Hybu Cig Cymru yn colli allan ar £1 miliwn y flwyddyn sydd yn hanfodol ar gyfer agor marchnadoedd eraill.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.