Rhun ap Iorwerth AC am gychwyn chwyldro CT yng Nghymru

electric.jpg

Wrth gyflwyno ei gynnig am Fil Cynllunio Gwefru Cerbydau Trydan yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn parhau i arwain yr ymgyrch am well seilwaith CT wrth iddo annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mwy o bwyntiau gwefru ledled Cymru.

Mae AC Plaid Cymru yn cynnig deddfwriaeth yn Siambr y Cynulliad ddydd Mercher fyddai’n cyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, er mwyn sicrhau bod yn rhaid i bob adeilad newydd gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, fyddai’n ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio CT, ac yn lleihau allyriadau carbon Cymru.

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi lleisio ei bryder dro ar ôl tro dros y misoedd diwethaf ynghylch diffyg arloesedd ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru o ran datblygu seilwaith sylweddol o bwyntiau gwefru CT yng Nghymru, gan alw adroddiad diweddar, oedd yn datgelu mai dim ond 31 o bwyntiau gwefru sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus sydd yng Nghymru gyfan, yn adlewyrchiad ‘cywilyddus’ at ymdrechion Llafur Cymru ar CT.

 Wrth amlinellu ei weledigaeth a’r rhesymeg y tu ôl i’r bil arfaethedig, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, 

“Byddai’r Bil hwn, o’i basio, yn rhoi cyfle i Gymru o’r diwedd ddechrau cystadlu o ran seilwaith i gerbydau trydan. Ar hyn o bryd, rydym mor bell ar ôl gweddill y DG, a hynny oherwydd diffyg ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weld bod y dechnoleg yn cael ei mabwysiadau yn gyflymach.

 “Mae Llywodraeth yr Alban wedi dangos ymrwymiad sylweddol at CT, ac y mae Cyngor Dinas Dundee, er enghraifft, yn caniatáu i berchenogion CT ddefnyddio eu meysydd parcio a’u pwyntiau gwefru am ddim, ac y mae ganddynt fwy o gerbydau trydan yn fflyd eu cyngor nac unrhyw gyngor arall yn y DG.

 “Does dim rheswm pa na all Cymru ddangos yr un uchelgais, petai’r Llywodraeth ond yn ymrwymo i fuddsoddi yn y dechnoleg wych hon. Rwyf wedi gweld drosof fy hun gymaint o awydd sydd ledled Cymru am CT, a’r unig beth sy’n dal y cyhoedd yn ôl rhag tanio’r chwyldro a buddsoddi mewn CT yw’r diffyg rhwydwaith gwefru sylweddol.

“Llwyddodd Plaid Cymru i gael £2m i’w fuddsoddi mewn pwyntiau gwefru yn y fargen ddiweddaraf ar y gyllideb, sy’n dangos ymrwymiad ein plaid i ddatblygu seilwaith CT , a phetai fy nghynnig i am ddeddfwriaeth yn cael ei basio, byddai’n gwneud iawn am  yr amser a gollwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn galluogi Cymru i arwain y maes mewn technoleg CT yn y dyfodol.”

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.