Plaid Cymru yn lansio cyllideb amgen ‘i ail-godi ac adfywio’r genedl’

budget17.png

Mae Plaid Cymru wedi lansio cyllideb amgen cyn datganiad Canghellor y DG ar y gyllideb ar ddydd Mercher, gan alw am raglen fawr o fuddsoddi mewn seilwaith ledled Cymru a throsglwyddo pwerau ariannol fel y gall Llywodraeth Cymru “ail-godi ac adfywio’r genedl ".

Mae cyllideb amgen y blaid yn cynnwys deg o bolisïau allweddol, yn amrywio o gyflwyno Morlyn Llanw Bae Abertawe, i gynhyrchu asesiadau effaith cydraddoldeb ar bob darn newydd o ddeddfwriaeth.

Dyma’r deg polisi allweddol:

  • Ymrwymiad i gynnal lefelau presennol cyllid yr UE i Gymru wedi i ni adael yr UE
  • Cyflwyno Morlyn Llanw Bae Abertawe
  • Cyhoeddi Asesiadau Effaith Brexit, gan gynnwys asesiad o’r effaith ar Gymru
  • Pecyn mawr o ddatganoli ariannol gan gynnwys:
    • Datganoli treth incwm yn llawn
    • Datganoli treth gorfforaeth
    • Cyfrifoldeb dros gasglu a chadw refeniw TAW
    • Datganoli Treth Teithwyr Awyr yn llawn
  • Cyflwyno pecyn o fuddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys buddsoddi mewn ffyrdd, rheilffyrdd a chysylltedd digidol
    • Gan gynnwys trydaneiddio pob rheilffordd yng Nghymru yn llawn
  • Datganoli gweinyddu lles
  • Cyflwyno rheoleiddiwr Treth Tanwydd er mwyn sicrhau y cynhelir prisiau tanwydd ar lefel resymol a fforddiadwy
  • Torri TAW i 5% i’r sector twristiaeth
  • Gwrthdroi’r toriad i Dreth Gorfforaeth, fydd yn costio £2.6 biliwn i drethdalwyr erbyn 2020/21
  • Ymrwymo i gynhyrchu asesiadau effaith cydraddoldeb ar bob deddfwriaeth newydd, gan gynnwys yr effaith ar fenywod

Yn ei sylw, meddai llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Bydd cyllideb amgen Plaid Cymru yn ail-godi ac yn adfywio’r genedl. Rydym eisiau gweld rhaglen fawr o uwchraddio seilwaith ledled Cymru, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffyrdd i gyd yng Nghymru, gan ddwyn Cymru i mewn i’r 21ain ganrif; uwchraddio ein rhwydwaith o ffyrdd gan gynnwys gwelliannau mawr i’r A55 a’r A470; a rhaglen chwyldroadol o seilwaith digidol, gan gysylltu Cymru trwy fand llydan uwch-gyflym a seilwaith symudol 5G.

“Mae angen i’r Canghellor gofio mai ei dasg yw cyflwyno ar gyfer pedair cenedl y DG, nid dim ond un. Wnaiff datganiad cyllideb arall eto fyth yn llawn o seilwaith newydd i Loegr a cheiniogau i Gymru mo’r tro.

“Fel y galwodd y IPPR ym Medi, yr unig ffordd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb daearyddol cynyddol ar draws y DG yw trosglwyddo pecyn mawr o bwerau ariannol i’r gwledydd datganoledig fel y gall pob gwlad fwrw ymlaen â’r dasg o dyfu eu heconomïau eu hunain. Byddai ein cyllideb amgen yn caniatáu i drethi a delir yng Nghymru aros yng Nghymru yn hytrach na chael eu hallforio i San Steffan.

“Am faint mwy fydd yn rhaid i ni oddef clywed nad oes arian i’w fuddsoddi yn ffyrdd a rheilffyrdd Cymru pan fo’n trethi ni yn cael eu defnyddio i dalu am y rheilffordd ddrutaf yn y byd, yn cysylltu Llundain â rhannau eraill o Loegr? Rhaid i’r Canghellor naill ai ddefnyddio ei gyllideb ar ddydd Mercher i gyhoeddi buddsoddiad mawr mewn seilwaith ledled Cymru, neu roi i ni’r arfau i wneud hynny ein hunain.

“Gwyddom fod Brexit eisoes wedi costio rhywun ar gyfartaledd yr hyn sy’n cyfateb i £448 oddi ar ei gyflog, gydag aelwydydd Cymru unwaith eto yn waeth eu byd nac aelwydydd Lloegr na’r Alban. Rhaid i’r Canghellor fynd i’r afael â chostau byw cynyddol, ac un peth sy’n ddrud iawn i lawer o deuluoedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yw cost tanwydd. Byddai rheoleiddiwr treth tanwydd Plaid Cymru yn cadw costau i lawr trwy reoleiddio’r trethi a delir pan fo cost tanwydd yn uchel.

“Mae’n bwysig hefyd fod llywodraeth, busnesau a dinasyddion cyffredin yn deall yr effaith gaiff polisïau’r llywodraeth ar eu bywydau beunyddiol, boed hynny o ran costau byw, mynediad at wasanaethau neu fel arall. Mae ein cyllideb amgen nid yn unig yn golygu cyhoeddi’r asesiadau effaith Brexit sydd eisoes yn bod, ond ymrwymiad hefyd i gynnal asesiadau effaith cydraddoldeb ar bob darn newydd o ddeddfwriaeth, gan sicrhau bod yr effaith ar fenywod, lleiafrifoedd a grwpiau bregus yn cael ei ddeall.

“Mae gan y Canghellor gyfle ar ddydd Mercher i newid trywydd, ymaith oddi wrth agenda methedig torri gwariant, tuag at raglen o fuddsoddi mewn ardaloedd sydd ei angen fwyaf.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.