Aled Morgan Hughes

aledmorganhughes_cywir.jpg

Ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Maldwyn

Hoffwch dudalen Facebook Plaid Cymru Maldwyn Dilynwch Plaid Cymru Maldwyn ar Twitter

Mae gwreiddiau Aled wedi’u seilio’n gadarn iawn ym Mwynder Maldwyn. Fel cenedlaethau o’i deulu gynt, magwyd Aled yn yr etholaeth; gan fyw’n gyntaf oll yn Nolanog, a bellach Llangadfan, gan fynychu Ysgol Gynradd Dyffryn Banw ac Ysgol Uwchradd Caereinion.

Yn gyn-Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru Ifanc, astudiodd radd israddedig ac ôl-raddedig mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bellach mae’n astudio am ddoethuriaeth mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Teimla Aled yn angerddol am weld Maldwyn a Chymru well. Yn fab i gyn-athro Cymraeg Ail-Iaith, noda ei brif ddiddordebau gwleidyddol fel addysg, pobl ifanc, yr amgylchedd a’r Iaith Gymraeg. Os caiff ei ethol, addawa Aled fod yn llais cryf a chyfeillgar dros Faldwyn a Chymru Wledig.

Helpwch ymgyrch Aled

Nôl i’r map etholaethau

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.