Plaid yn herio Llywodraeth y DG i gynnig atebion am fasnachu amaethyddol wedi Brexit

Simon_Thomas.jpg

Heddiw,mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Simon Thomas AC, wedi herio Liam Fox AS, yr Ysgrfiennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol sydd fel petai yn ffafrio setliad seiliedig ar drefniadau masnachu’r WTO, i greu cynllun i amddiffyn economi cefn gwlad Cymru wedi Brexit.

Rhybuddiodd Simon Thomas y bydd trafod bargeinion masnachu gyda’r UE a gweddill Sefydliad Masnach y Byd yn broses faith a thrafferthus ac y bydd bron yn amhosib gwneud hynny heb effeithio ar y sector yng Nghymru.

Bydd cadw at ymrwymiadau’r WTO wedi Brexit yn creu anawsterau yn achos mewnforion ac allforion dan gwotâu cyfraddau tariff. Mae rheolau’r WTO ar beidio â gwahaniaethu yn awgrymu na fydd yn hawdd cynnal mynediad at y farchnad a roddwyd dan Gytundebau Masnach Rhanbarthol yr UE heb drafodaethau cyflawn i ddod i gytundebau cyfochrog gyda’r 50 neu fwy o wledydd sydd wedi llofnodi cytundebau masnach rydd gyda’r UE.

Yn ymarferol, gallai dewis yr WTO olygu tariff cyfartalog o ryw 14% o fewnforion amaethyddol o wledydd heb fod yn yr UE, gyda chyfraddau uwch ar eitemau unigol. Gallai allforion cynnyrch llaeth ddenu tariff o 36%, a gallai rhai ar allforion cig eidion fod rhwng 58 a 70%. O ddibynnu ar reolau Sefydliad Masnach y Byd, gallai cost ychwanegol allforio cig eidion Prydeinig fod yn £240miliwn y flwyddyn, gyda £90miliwn yn ychwanegol at gost allforio cig oen.

Ymhellach, bydd pwysau amser ar y DG i sicrhau cytundebau yn ei gadael mewn sefyllfa fargeinio gwan o gymharu â’i phartneriaid masnachu, gan awgrymu y gall y bydd yn rhaid i’r DG ildio mwy o gonsesiynau nag a fuasai’n bod fel arall er mwyn sicrhau’r cytundebau hyn.

Dywedodd Simon Thomas AC:

“Yn sicr, bydd y diffyg cynllunio wrth gefn a’r addewidion gwag a wnaed gan y Brexitwyr yn ystod ymgyrch y refferendwm yn peryglu bywoliaethau’r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sy’n gweithio yn y sectorau amaethyddiaeth neu fwy, neu’n dibynnu arnynt.

“Mae’r UE yn cyfrif am dros 90% o allforion amaethyddol Cymru, gyda bwyd a ffermio Cymru yn rhoi £5.8biliwn i’n heconomi bob blwyddyn.

“Mae’n warth na ffurfiodd Llywodraeth y DG Gynllun B cyn refferendwm yr UE. Mae’n dangos gymaint allan o gysylltiad â’r etholwyr y mae Llywodraeth y DG a’i Gweinidogion.

“Hyd yn oed petaem yn derbyn iawndal llawn am y PAC a chronfeydd strwythurol, sydd yn ymddangos yn hynod annhebyg o gofio amharodrwydd y Prif Weinidog i ymrwymo i unrhyw gyllido unwaith i’r DG adael yr UE, bydd bod y tu allan i’r Farchnad Sengl yn cael effaith enbyd ar economi Cymru.
“Mae’n amser i Lywodraeth y DG amlinellu sut y maent am ymdrin â dryswch eu dewis o’r WTO er mwyn peidio ag achosi unrhyw ddifrod anadferadwy i economi Cymru.

“Mae pobl mewn ardaloedd gwledig y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y fasnach amaethyddol yng Nghymru yn haeddu cael gwybod beth sydd o’u blaenau. Fel y dywedais trwy’r amser, mae ansicrwydd yn wenwyn economaidd.

"Os aiff Brexit rhagddo, a ninnau, gwaetha’r modd, yn gorfod gadael yr UE, yna dylai’r DGF enlu at fod yn yr AEE /EFTA. Os yw hynny’n cael ei wahardd gan Norwy (posibilrwydd a anwybyddwyd gan Brexit cyn y refferendwm) yna dylai’r DG drafod cytundeb cyfochrog i’r un a sicrhawyd gan Norwy, ond gan wneud darpariaeth benodol i gynhyrchion ffermio Cymru er mwyn cael mynediad rhydd o dariffau i farchnadoedd yr UE."

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.