Addysg o'r Crud i'r Yrfa: Ein Gweledigaeth ar gyfer Addysg

 Cymru_Glyfrach.png

Addysg fydd cyfrwng y newid unigol mwyaf y gallwn ei gyflawni yng Nghymru. Fydd Llywodraeth Plaid Cymru ddim yn siomi'n hieuenctid.

Bu enw i eiddigeddu ato gan addysg Cymru ledled y byd ond fe lithrodd ymhellach bellach y tu ôl i'n cymdogion Prydeinig ac Ewropeaidd mewn blynyddau diweddar. Ar lefel bolisi - drwy fod yna gorddi parhaus ymysg Gweinidogion a Chyfarwyddwyr Addysg - gwelwyd methiant i fabwysiadu dulliau cyson a strategol. Yn wir fe gafwyd rhestr o flaengareddau - rhai'n gwneud yn wael, rhai'n fwy defnyddiol ond y cyfan wedi'u cydgysylltu'n wan - ynghyd â system Seisnig o brofi-ac-arolygu wedi'i hanner-datgymalu ond heb ei llunio'n gyfanbeth cydlynol.

I helpu i greu system addysg genedlaethol crud-i-yrfa fe wnawn ni:

• fuddsoddi yn addysg y blynyddoedd cynnar;

• creu proffesiwn ddysgu o safon rhyngwladol;

• gwarantu swydd i bawb dan-25 a rhaglen dileu dyled i raddedigion.

Ar ôl 19 mlynedd o weinidogion addysg Llafur, mae'n plant ni'n perfformio'n waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth na phlant unrhyw ran arall o'r DG ac yn waeth na chyfartaledd yr OECD.

Bu'r dirywiad mewn gwyddoniaeth yn drychinebus: ein disgyblion yn perfformio'n waeth na disgyblion Estonia, Gwlad Pwyl, Iwerddon a Fietnam. Cafodd cenhedlaeth gyfan eu haddysgu o dan lywodraethau Llafur ond mae gan ein pobl ifainc lai o sgiliau gwyddonol na gwledydd a ddioddefodd o fewn y genhedlaeth ddiwethaf trwy ryfel cartref neu drwy fod y tu hwnt i'r Llen Haearn. Mae hyn yn waeth na methiant. Mae'n destun cywilydd i'r genedl.

Mae i addysg Gymreig rai elfennau'n gyffredin â system gampus y Ffindir: system hollol gyfun, lle mae plant yn dechrau dysgu ffurfiol yn hwyrach. Fe newidion ni strwythur a chynnwys ein system addysg, ond nid yr ansawdd. I wrthdroi degawd a hanner o ddirywiad mae angen chwyldro addysgol.

Dysgu, dysgu, dysgu fydd ein blaenoriaeth gyntaf.

Polisiau Addysg Allweddol

 1. Addysg cyn-ysgol llawn-amser am ddim i bob plentyn tair oed

 Cam_4_-_Darpariaeth_Addysg_Cyn-ysgol_am_Ddim.png

Cred Plaid Cymru fod pawb yn haeddu’r cychwyn gorau mewn bywyd. Pan fydd plant yn cael addysg dda yn gynnar, maent yn fwy tebygol o gael cymwysterau da a mynd ymlaen i swyddi da pan fyddant yn hŷn. Dyna pam y bydd y Blaid yn sicrhau y caiff pob plentyn tair oed yng Nghymru addysg cyn-ysgol llawn-amser am ddim.

Mae plant yn Lloegr a’r Alban eisoes yn derbyn mwy o ddarpariaeth addysg cyn-ysgol na phlant yng Nghymru. I ddechrau, bydd y Blaid yn cynyddu’r ddarpariaeth o 10 awr i 15 awr yr wythnos, fel bod plant yma yn cael yr un cyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Erbyn diwedd tymor y Cynulliad, bydd Plaid Cymru yn cynyddu darpariaeth gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos i bob plentyn tair a phedair oed.

Gwyddom fod rhieni yn gorfod ymdopi â chostau gofal plant sy’n codi’n uwch nag erioed. Cafwyd 40% o gynnydd ers 2011, sy’n ei gwneud yn anodd i rieni allu dychwelyd i’r gwaith i gefnogi eu teuluoedd. Trwy ddarparu addysg cyn-ysgol llawn-amser i bob plentyn tair oed, byddwn yn gallu helpu rhieni sydd eisoes yn defnyddio gofal plant i arbed dros £100 yr wythnos.


 2. Premiwm Athrawon – codi safonau yn ein hysgolion

Cam_5_-_Premiwm_i_Athrawon.png

Rydym eisiau i’n hathrawon fod y gorau allan nhw fod.

Yr ydym yn cynnig Premiwm Athrawon fydd yn rhoi i athrawon a chymorthyddion dysgu yng Nghymru gyfle i wella eu sgiliau a chael gyrfaoedd sydd yn rhoi mwy fyth o foddhad.

Mae adroddiadau yn awgrymu nad yw safonau dysgu yn ddigon da yn llawer o’n hysgolion. Wedi blynyddoedd cyson o fethiant o du polisïau llywodraethau Llafur, dywedir bod safon y dysgu yn “anghyson a gweithgareddau heb fod yn ddigon heriol” yn rhyw hanner ysgolion uwchradd Cymru.

Dyw hyn ddim yn ddigon da. Yn ein barn ni, mae addysg yn rhan annatod o adeiladu economi lwyddiannus. Ac er mwyn i’n myfyrwyr gael yr addysg orau, rhaid i ni gael yr athrawon gorau.

Gwneud y proffesiwn dysgu yn fwy deniadol

Mae ymchwil gan yr OECD yn dangos fod gwledydd sydd wedi gwella eu perfformiad yn PISA 2012, megis Brasil, Columbia, Estonia, Israel, Siapan a Gwlad Pwyl, oll wedi sefydlu polisïau cryf i wella ansawdd eu staff dysgu trwy godi eu gofynion i ennill trwydded dysgu ond hefyd trwy godi cyflogau i wneud y proffesiwn yn fwy deniadol i fyfyrwyr sydd â chyraeddiadau uchel.
Rydym eisiau i ddysgu fod yn broffesiwn lefel Meistr, gyda datblygu proffesiynol parhaus yn orfodol.

Byddai ein polisi Premiwm Athrawon yn gymhelliant i athrawon brwd gyda sgiliau uchel aros yn y proffesiwn, heb sôn am ddenu graddedigion medrus i’r proffesiwn.

Byddwn yn cydnabod athrawon medrus trwy roi i bob un sydd wedi cymhwyso i lefel Meistr neu’r hyn sy’n cyfateb i bremiwm o 10% ar ben eu cyflog, fydd yn help iddynt aros yn y sector, a chynnal eu lefel sgiliau.


 3. Bond Dysgu – denu pobl ifanc â sgiliau uchel i fyw a gweithio yng Nghymru i hybu ein heconomi

Cam_6_-_Talu_Dyledion_Graddedigion_a_Chreu_Prentisiaethau.png

Yn ogystal â chefnogi athrawon, mae’r Blaid wedi ymrwymo i system addysg fydd yn cefnogi pob unigolyn yng Nghymru trwy gydol eu gyrfa. Mae’r Blaid yn cynnig dewis o fewn y system bresennol.

Fel Gweinidog Addysg Cymru, fe roddaf i bob myfyriwr fenthyciad i dalu cost eu hastudiaethau lle bynnag maent yn dewis astudio. Bydd ein bond dysgu yn hepgor £6,000 am bob blwyddyn o astudio os bydd y myfyrwyr yn dychwelyd i Gymru o fewn pum mlynedd i raddio.

Buddsoddi mewn Prifysgolion a Cholegau Cymreig

Mae grant ffioedd dysgu presennol Llafur yn bolisi drud, anghynaladwy ac y mae angen ei ail-feddwl yn llwyr. Mae ei gost i Lywodraeth Cymru wedi codi o £109m y flwyddyn yn 2012/13 i £238.6m yn 2014/15. Bydd ein bond dysgu yn cymryd lle’r system o grant ffioedd dysgu ac yn arbed £100m yn y flwyddyn gyntaf ac yn rhoi arbediad o £235m erbyn y drydedd flwyddyn.

Bydd hyn yn ein galluogi i fuddsoddi’n uniongyrchol ym mhrifysgolion Cymru. Gwyddom, dan bolisïau presennol Llafur, fod arian yn llifo allan o Gymru ac yn cael ei ddefnyddio fel cymhorthdal i brifysgolion Lloegr. Yn ôl Prifysgolion Cymru, gall y bwlch cyllido “rhwng prifysgolion Cymru a Lloegr yn awr fod cymaint â £115m”, sydd yn peryglu perfformiad mewn tablau cynghrair sydd yn ei dro yn effeithio ar niferoedd y myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio.

Byddai’r £100 miliwn ychwanegol fyddai’n cael ei arbed ar gael i brifysgolion a cholegau Cymru ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil, pynciau drud fel meddygaeth, cyrsiau rhan-amser, cyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Annog graddedigion i weithio yng Nghymru a chreu 50,000 o brentisiaethau

Bydd ein Bond Dysgu yn annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru ac unwaith iddynt raddio, i weithio yng Nghymru a chyfrannu at economi Cymru.

Bydd ein 50,000 o brentisiaethau newydd yn cynnig sgiliau a chyfleoedd gwerthfawr i bobl yng Nghymru, i ennill tra’u bod yn dysgu, a chyfrannu at yr economi. Yn ôl Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NFTW), mae prentisiaethau yn rhoi £74 o elw am bob £1 a fuddsoddir.

Mae ein myfyrwyr yn rhy bwysig i ni adael iddynt lithro ymaith. Mae ar Gymru angen mwy o feddygon, deintyddion a pheirianwyr. Mae myfyrwyr sy’n astudio y tu allan i Gymru yn fwy tebygol o weithio y tu allan i Gymru wedi iddynt raddio; felly rydym yn colli’r sgiliau y mae arnom eu hangen.

Dywed adroddiad interim Diamond ar addysg uwch a chyllid myfyrwyr nad yw’r status quo yn ddewis a bod angen i ni edrych eto ar ein polisi grant ffioedd myfyrwyr. Mae hyn i’w groesawu. Bydd yn rhaid i ni aros tan yr hydref i weld yr adroddiad llawn, ond mae gan y Blaid bolisi credadwy sy’n ymarferol yn y sefyllfa bresennol.

Mae’r modd y mae Llafur wedi trin addysg yng Nghymru wedi bod yn fethiant. Mae’r etholiad nesaf yn gyfle i gael polisi sydd yn cefnogi ein plant, myfyrwyr, athrawon a’n prifysgolion ac a fydd o les i’n heconomi. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cefnogi system addysg o’r crud i’r yrfa fydd yn gweithio i bawb yng Nghymru.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.