Aelodau Cynulliad

Mae gan Blaid Cymru unarddeg Aelod Cynulliad ac rydym ar hyn o bryd yn gweithio fel gwrthblaid. Mae pob AC yn gweithio'n galed yn cynrychioli eu hardaloedd gan gefnogi amcanion Plaid Cymru i symud ein gwlad ymlaen. Gallwch ymweld â'u gwefannau drwy glicio ar y lluniau.


 Leanne Wood

LeanneWood.jpg

Arweinydd Plaid Cymru

Leanne sydd wedi bod yn arwain Plaid Cymru ers 2012. O gefndir dosbarth gweithiol, sydd wedi magu gwerthoedd ac egwyddorion cryf ynddi, mae hi wedi bod yn bencampwraig dros ei hardal a Chymru yn gyffredinol.

Mae arolygon barn yn dangos mae Leanne yw’r arweinydd plaid fwyaf poblogaidd yng Nghymry ac mae ei gwaith ymgyrchu yn parhau i gryfhau wrth iddi deithio hyd a lled y wlad yn gwrando ar bryderon pobl a chreu atebion iddynt. 

 

 

 


 Llŷr Gruffydd

LlyrGruffydd.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Addysg, Plantm Sgiliau a Dysgu Gydol Oes

Rhanbarth: Gogledd Cymru

Mae Llŷr yn byw ar fferm deuluol ger Rhuthun. Arferai weithio fel rheolwr gyda chwmni datblygu economaidd oedd yn arbenigo mewn helpu i sefydlu busnesau newydd a helpu busnesau i dyfu.

Cychwynnodd ei yrfa fel gweithiwr ieuenctid ac aeth ymlaen i weithio fel ymchwilydd a swyddog y wasg i Aelodau Senedd Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans ac Eurig Wyn. Ef hefyd oedd Cydlynydd Ymgyrch Genedlaethol Llywydd Plaid Cymru bryd hynny, Dafydd Wigley, cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999.

Wedi symud yn ôl at wreiddiau ei deulu yn Sir Ddinbych yn 2004, Llŷr oedd ymgeisydd etholiad San Steffan yn 2010 am Orllewin Clwyd, gan gynyddu pleidlais y blaid o fwy na 50% a chael yr ail ogwydd fwyaf i’r Blaid yn y wlad.


 

Siân Gwenllian

SianGwenllian.jpg

Teitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros yr iaith Gymraeg, Cynllunio, Llywodraeth Leol a Chydraddoldeb

Etholaeth: Arfon

Mae Siân yn aelod o ddau o bwyllgorau'r Cynulliad: Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; a Phwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymuned. Ymunodd â Chyngor Gwynedd yn 2008, gan gynrychioli ward y Felinheli. Bu'n dal swyddi uchel ar Gyngor Gwynedd gan gynnwys Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet dros Addysg, Aelod Arweiniol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ac Arweinydd Portffolio Cyllid.

Mae Siân wedi dilyn gyrfa hir a nodedig mewn newyddiaduraeth. Dechreuodd gyda'r BBC yn 1980 ar ôl cwblhau diploma ôl-radd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi gweithio i ITV, Golwg, fel Swyddog y Wasg ac fel ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus/newyddiadurwr/darlledwr hunangyflogedig.


 

 Rhun ap Iorwerth

RhunApIorwerth.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Etholaeth: Ynys Môn

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol fel Aelod Cynulliad Ynys Môn ym mis Awst 2013.

Wedi’i fagu ar yr ynys, cafodd ei addysg yn Ysgol David Hughes, cyn graddio mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe gafodd yrfa lewyrchus fel newyddiadurwr gyda’r BBC fel cyflwynydd a Phrif Ohebydd Gwleidyddol.

Yn rhugl yn y Gymraeg, mae’n briod gyda thri o blant. Mae’n aelod o Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ef yw Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd. Mae hefyd yn Gadeirydd y Grwp Trawsbleidiol ‘Cymru Rhyngwladol’. Mae hefyd yn hyffoddwr ieuenctid gyda Chlwb Rygbi Llangefni.

 


 

 Bethan Jenkins

BethanJenkins.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Dai, Tlodi, Cymunedau a Materion Dur

Rhanbarth: De Orllewin Cymru

 Cafodd Bethan Jenkins ei hethol i’r Cynulliad gyntaf nôl yn 2007. Mae hi’n gyn Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ac yn aelod o Gymdeithas yr Iaith.

Mae hi’n ymgyrchydd nodedig gyda’i diddordebau yn cynnwys datblygiad economaidd, materion rhyngwladol, hawliau merched, amddiffyn ceiswyr lloches, gwarchod gwasanaethau cymdeithasol a darpariaeth triniaeth ar gyfer anhwylderau bwyta. Yn ddiweddar mae hi wedi chwarae rôl amlwg yn sefyll lan dros weithwyr dur ym Mhort Talbot.

Y tu allan i wleidyddiaeth mae ei diddordebau yn cynnwys chwaraeon a cherddoriaeth.

   


  Elin Jones

ElinJones.jpg

 

Teitl: Llywydd

Etholaeth: Ceredigion

Magwyd Elin Jones ar fferm yn Llanwnnen ger Llambed. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.

Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Economeg, aeth Elin ymlaen i astudio ar gyfer gradd uwch MSc mewn Economeg Wledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweithiodd fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac hefyd yn gyfarwyddwr Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.

Cafodd Elin ei hethol fel Maer ieuengaf Aberystwyth ym 1997 a chafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 1999. Penodwyr Elin yn Weinidog Materion Gwledig yng llywodraeth glymblaid Cymru’n Un. Bellach Elin yw Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 


 Steffan Lewis

SteffanLewis.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Faterion Allanol

Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru

Wedi ei fagu ym Mhont-y-cymer a Thredegar, fe aeth Steffan i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl ac fe gafodd radd mewn Hanes ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Morgannwg. Mae’n byw yn y Coed Duon gyda’i wraig a’i fab.

Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys materion rhyngwladol ac adfywio diwydiant. Fel llefarwydd Plaid Cymru ar faterion allanol, fe sy’n arwain ymateb y Blaid i Brexit.

Tu allan i wleidyddiaeth mae Steffan yn hoffi pêl-droed a theithio. 

 

 


 Dai Lloyd

DaiLloyd.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Isadeiledd a Diwylliant

Rhanbarth: De Orllewin Cymru

Cafodd Dai ei eni yn Nhywyn yng Ngwynedd a’i fagu ar fferm ei deulu yn Llambed. Mae wedi byw yn Abertawe ers 30 mlynedd bellach. Pan nad yw’n gwleidydda mae Dr Lloyd yn feddyg teulu, ac mae ei arbenigedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei adeiladu dros flynyddoedd o brofiad ac ymchwil.

Cafodd ei ethol am y tro cyntaf fel cynghorydd yn Abertawe, cyn ennill sedd Cynulliad yn 1999. Mae Dai yn ymgyrchydd brwdfrydig ar faterion yn ymwneud ac iechyd a diwylliant ac mae wedi llwyddo i sicrhau nifer o newidiadau polisi a deddfwriaethol, yn arbennig yn ei faes ei hun, iechyd cyhoeddus. 

 


 Neil McEvoy

NeilMcEvoy.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Chwaraeon a Thwristiaeth

Rhanbarth: Canol De Cymru

Cafodd Neil ei ethol fel Aelod Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru yn 2016. Mae hefyd yn parhau i fod yn Gynghorydd dros y Tyllgoed yng Nghaerdydd. Rhwng 2008 a 2012 Neil oedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd. Cyn cael ei ethol roedd Neil yn athro ieithoedd modern. Mae’n gallu siarad Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg.

Mae’n ymddiddori mewn iaith arwyddion hefyd ac ef oedd y cyntaf erioed i’w defnyddio yn Siambr y Cynulliad. Mae Neil yn gweithio yn galed i ddatgelu’r gwir pan mae arian cyhoeddus yn cael ei gamddefnyddio gan edrych yn ofalus ar grantiau llywodraethol, y tâl goruchel mae cyfarwyddwyr yn ei gael a dylanwad lobïwyr ar ddemocratiaeth Cymru. 

 


 Adam Price

AdamPrice.jpgTeitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Gylid a'r Economi

Etholaeth: Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Ganwyd Adam Price yng Nghaerfyrddin i deulu löwr a chafodd ei addysgu yn Ysgol Dyffryn Aman a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda BSc yn Economeg. Aeth Adam ymlaen i ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr o Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg y DU a Chyfarwyddwr Gweithredol o’r asiantaeth datblygu economaidd a newid diwylliannol Cymreig, Menter a Busnes.

Roedd yn AS rhwng 2001 a 2010 a chafodd gydnabyddiaeth eang am ei waith ymgyrchu a’i ymdrech i uchelgyhuddo Tony Blair am ei rôl yn rhyfel Irac.

Yn dilyn ei amser yn San Steffan gwobrwywyd ef ag Ysgoloriaeth Fulbright i astudio ym Mhrifysgol Harvard lle astudiodd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Fe ddaeth yn Gymrawd yn y Ganolfan ar gyfer Datblygu Rhyngwladol yn y John F. Kennedy School of Government ym Mhrifysgol Harvard.

Cafodd ei benderfyniad i ddychwelyd i wleidyddiaeth reng-flaen ei groesawu gyda brwdfrydedd enfawr.


 Simon Thomas

SimonThomas.jpg

Teitl: Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Rhanbarth: Canol a Gorllewin Cymru

Cafodd Simon Thomas ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr cyn mynd ymlaen i Aberystwyth lle y gwnaeth hyfforddi’n wreiddiol fel llyfrgellydd.

Roedd yn Aelod Seneddol dros Geredigion rhwng 2000 a 2005 gan lwyddo i ennill enw iddo’i hun fel Seneddwr o’r radd flaenaf. Wedi hyn aeth yn reolwr datblygu ar gyfer Technium yn Sir Benfro, cyn cael ei benodi i rôl uwch-gynghorydd i lywodraeth Cymru’n Un, gan roi cyngor i’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidogion eraill Plaid Cymru.

Mae’n briod a ganddo ddau o blant. Mae’n mwynhau cerdded, darllen a threulio amser gyda’i deulu.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.