Rhaid i’r Llywodraeth roi’r gorau i ‘ideoleg methiannus llymder’

landscape_horse_carriage.jpg

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth y DG i roi’r gorau i’w ‘ideoleg llymder methiannus’ cyn Datganiad yr Hydref gan y Canghellor.

Mae llefarydd y Blaid ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi rhybuddio nad yw rhoi’r gorau i dargedau blaenorol George Osborne yn ddigon ac na fydd hyn ynddo’i hyn yn golygu lliniaru ar doriadau mewn gwariant. Galwodd ar Ganghellor y Trysorlys i gydnabod fod ‘ideoleg llymder’ San Steffan wedi methu, ac iddo gyhoeddi newid strategaeth yn ei Ddatganiad yr Hydref.

Mae’r Canghellor eisoes wedi rhoi’r gorau i darged ei ragflaenydd o gael gwarged ar y gyllideb erbyn 2019-20 ond mae AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi rhybuddio, oherwydd y rhagolygon economaidd gwan yn dilyn pleidlais Brexit, na fydd rhoi’r gorau i’r nod hwn yn golygu y gellir lleihau’r toriadau a gynlluniwyd i wario cyhoeddus.

Mae’r Sefydliad Materion Cyllidol (IFS) wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i fesurau llym barhau y tu hwnt i 2020 oherwydd ergyd gwerth £25 biliwn y flwyddyn i gyllid cyhoeddus yn sgil pleidlais Brexit.

Bydd Datganiad yr Hydref yn amlinellu’r rhagolygon economaidd diweddaraf o Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb (OBR). Yn Natganiad llynedd, rhagwelodd yr OBR dwf economaidd o 2.4 y cant yn 2016 a 2.5 y cant yn 2017. Y disgwyl yw, o ganlyniad i bleidlais Brexit, yr adolygir y rhagolygon yn Natganiad eleni, ac y bydd hyn yn ei dro yn arwain at lai o gynnydd na’r disgwyl mewn refeniw o drethi.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Mae saith mlynedd, bron, wedi mynd heibio ers i’r Torïaid addo am y tro cyntaf i ddileu’r diffyg trwy dorri ar wariant. Dywedwyd wrthym y byddai’r diffyg wedi diflannu erbyn diwedd y Senedd flaenorol, oedd bron i ddwy flynedd yn ôl, ond wrth gwrs, dyw’r diffyg ddim yn agos at gael ei ddileu.

“Nid cyd-ddigwyddiad yw hi fod y Torïaid wedi peidio â sôn am eu ‘cynllun economaidd tymor-hir’. Mae eu cynllun wedi methu. Allwch chi ddim trin economi gwlad yn yr un modd â chyllideb teulu, a naïfrwydd yw ceisio gwneud hynny. Wrth drin Cyllideb Gwladwriaeth, mae torri buddsoddi cyhoeddus yn cael effaith negyddol ar incwm hefyd

“Mae’r ffaith eu bod wedi troi eu cefnau ar siarter cyllidol Osborne yn dangos mai dewis ideolegol oedd llymder, yn hytrach na rheidrwydd economaidd fel y ceisiodd pleidiau San Steffan honni. Dewis ydoedd a achosodd boen a dioddefaint i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac i beth? Mae’r diffyg yno o hyd.

"Hyd yn oed os yw’r Canghellor wedi llacio cadwyni targedau diffyg ei ragflaenydd, bydd rhagolygon gwaeth am dwf economaidd o ganlyniad i bleidlais Brexit yn golygu gostyngiad mewn refeniw i’r Trysorlys ac felly bydd yn rhaid i’r toriadau gwario arfaethedig ddal i ddigwydd, a bydd ideoleg fethiannus llymder yn parhau.

“Rhaid i’r Canghellor dderbyn fod ‘cynllun economaidd tymor-hir’ honedig y Torïaid wedi methu, a rhaid iddo newid cyfeiriad. Dylai ddefnyddio achlysur ei Ddatganiad cyntaf yr Hydref hwn i gymryd y penderfyniad mentrus hwnnw.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.