Risg "cod coch" oherwydd diffyg doctoriaid a nyrsys

00_Rhun_ap_Iorwerth_AC.jpg

 

 

Prinder meddygon a nyrsys ledled Cymru yw un o achosion risg difrifol ar draws ardaloedd y saith bwrdd iechyd, datgelodd Plaid Cymru heddiw.

Mae Plaid Cymru wedi datgelu cofrestri risg pob un bwrdd iechyd yng Nghymru – a dywed pob un fod prinder staff yn peri risg uchel.

Mae cofrestri risg yn cael eu cynhyrchu gan bob bwrdd iechyd fel gofyniad cyfreithiol, ac y maent yn amlygu’r risgiau mwyaf arwyddocaol i weithrediadau beunyddiol bwrdd iechyd. Fel rheol, maent yn defnyddio trefn o oleuadau traffig i gategoreiddio risg yn ôl tebygolrwydd a difrifoldeb.

Ar hyn o bryd, amlygwyd prinder staff fel risg “goch” i ddiogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau gan bob bwrdd iechyd.

Mae’r cofrestri risg yn lleisio pryderon am allu’r staff i barhau i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu.

Yng Nghwm Taf, noda cofrestr risg y bwrdd iechyd fod:

“Mwyafrif y risgiau a aseswyd yn gysylltiedig a phrinder gweithlu ac effaith gysylltiol hyn, sy’n cynnwys prinder meddygon teulu a chynaliadwyedd gofal sylfaenol.”

Adleisir y pryderon hyn mewn byrddau eraill. Mae cofrestr risg Hywel Dda yn nodi bod:

“Perygl na fydd meddygfeydd meddygon teulu bellach yn gallu cyflwyno’r holl wasanaethau i’r cleifion a gofrestrwyd. Achosir hyn gan brinder yn y gweithlu clinigol i gyflawni yn erbyn y model presennol o wasanaeth meddygon teulu.”

Nid yw’r problemau yn gyfyngedig i ofal sylfaenol na gwasanaethau y tu allan i oriau, ond maent i’w gweld ar wardiau penodol hefyd. Mae cofrestr risg bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn nodi fod “gwasanaethau i fabanod newydd-anedig a meddygaeth plant yn faes pryder penodol”, yn ogystal â phroblemau gydag anabledd dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r cofrestri risg yn ei gwneud yn berffaith blaen fod y prinder presennol o feddygon a nyrsys yn peryglu gofal cleifion, mewn ysbytai ac yn y gymuned. Dyw hyn ddim wedi ei gyfyngu i un ardal neu ddwy, chwaith - mae pob bwrdd iechyd wedi rhoi cod coch ar y risg a achosir gan y prinder hwn.

“Bu Plaid Cymru yn rhybuddio ers blynyddoedd lawer y buasai prinder staff yn arwain at wasanaethau yn mynd yn anghynaladwy, a dyna fu llawer o arbenigwyr yn ddweud hefyd. Nawr mae’r peth ar ddu a gwyn gan y byrddau iechyd: mae methiant Llywodraeth Cymru i recriwtio digon o staff meddygol yn peryglu gwasanaethau mwyaf sylfaenol ein GIG.”

“Mae naws bryderus papurau’r byrddau iechyd yn hollol groes i’r hunan-fodlonrwydd a ddangosir gan Lywodraeth Lafur Cymru yn hyn o beth. Tra bod y byrddau iechyd yn dweud wrthym fod y prinder staff wedi creu bygythiad difrifol, mae’r llywodraeth wedi rhoi’r gorau i ddatblygu addysg feddygol ym Mangor ac wedi dweud wrthym yn ddiog ddigon fod eu hymgyrchoedd recriwtio yn “gweithio’n dda”. Rwy’n siŵr y buasai’r byrddau iechyd yn dweud wrthym nad yw hynny’n ddigon da.

“Mae angen cymryd bygythiad dwys fel hyn o ddifrif, a rhaid i’r llywodraeth weithredu rhag blaen i leihau’r risg. Mae Plaid Cymru wedi gosod allan gynllun i recriwtio a hyfforddi mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG, a phum mil o nyrsys. Rydym hefyd wedi gosod allan gynlluniau i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. Rhaid i’r llywodraeth weithredu’r cynllun hwn yn awr er lles cleifion.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.