Cadw Llafur yn Onest er mwyn Cymru Decach

AdamPrice2.jpg

Eleni, rhoddodd nifer o gymunedau eu ffydd ym Mhlaid Cymru yn y blwch pleidleisio. O’r de i’r gogledd, o’r dwyrain i’r gorllewin, rydym wedi gwreiddio mewn rhannau o’r wlad, sy’n rhoi llwyfan i ni adeiladu Cymru o uchelgais a chyfiawnder. Yr wythnos hon, rhydym yn dangos eto y gallwn ddal y Llywodraeth Lafur i gyfrif, a thrafod ar yr un pryd i gael gwelliannau cadarnhaol er lles y genedl.

Eleni, rhoddodd nifer o gymunedau eu ffydd ym Mhlaid Cymru yn y blwch pleidleisio. O’r de i’r gogledd, o’r dwyrain i’r gorllewin, rydym wedi gwreiddio mewn rhannau o’r wlad, sy’n rhoi llwyfan i ni adeiladu Cymru o uchelgais a chyfiawnder. Yr wythnos hon, rhydym yn dangos eto y gallwn ddal y Llywodraeth Lafur i gyfrif, a thrafod ar yr un pryd i gael gwelliannau cadarnhaol er lles y genedl.


Mae’r achos dros Lywodraeth Plaid Cymru yn cyflymu, a cheir awgrym o’r gyrchfan derfynol honno yn y cyhoeddiad yr wythnos hon am gyllideb Cymru.


Mae ein syniadau polisi yn flaengar. Plaid ydym sy’n dal i gredu yn y Gymru Newydd, ugain mlynedd wedi i bobl bleidleisio am y tro cyntaf amdani. Ond gellir tynnu ar brofiad dau gymeriad hanesyddol i ddangos pam ein bod yn gorfodi Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r fargen hon.


Aneurin Bevan a soniodd am “iaith blaenoriaethau”. Ac y mae’r blaenoriaethau a sicrhawyd gan fy mhlaid i yn rhoi blas o’r modd y buasem yn llywodraethu. Maent yn fynegiant modern o flaenoriaethau polisi fy ysbrydoliaeth wleidyddol Gymreig arall, Gwynfor Evans. Dyma’r blaenoriaethau cenedlaetholgar plan fydd yn sbarduno prosiectau sydd yn rhaid digwydd.


Syniadau Plaid Cymru yw mwyafrif yr ymrwymiadau. Mae cyfanswm gwerth y mentrau polisi hyn yn £211m. O’u hychwanegu at yr addewidion a ddatglowyd gennym trwy herio’r Llywodraeth Lafur am swydd y Prif Weinidog, byddwn wedi sicrhau hanner biliwn o bunnoedd. Golyga hyn fod Plaid Cymru wedi sicrhau mwy o ymrwymiadau polisi o’u safle fel gwrthblaid nac unrhyw blaid arall yn hanes datganoli. Ac y mae’n hanfodol nodi y gwnaed hyn nid trwy “glosio at” Lafur, ond trwy eu herio ac ennill safbwynt trafod cryf.


Mae’r cytundeb yn parhau â’r ymrwymiadau a sicrhawyd gennym llynedd, yn enwedig yr arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, addysg bellach ac uwch, a chyllid i’r celfyddydau. Esgeuluswyd sectorau hyn yn ddifrifol, a’u tangyllido. Mae cryfhau diwylliant Cymru yn arbennig o bwysig i Geredigion ac i Aberystwyth, tref y mae Plaid Cymru am ei dynodi fel prifddinas ddiwylliannol swyddogol Cymru.


O ran trafnidiaeth a’r economi – agwedd bwysicaf creu cenedl, fe dybiwn – fe wnaethom enillion ar gysylltiadau de-gogledd a dwyrain-gorllewin. Mae gwaith ar yr achos dros welliannau’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, gwelliannau i’r A470 a’r A487, twnnel y Rhondda. Dileu tollau Pont Cleddau a phont arall dros y Fenai oll yn dod yn uniongyrchol o faniffesto Plaid Cymru. Rwyf wrth fy modd ein bod yn rhoi stamp ffisegol ar fap trafnidiaeth Cymru cyn ffurfio’r weinyddiaeth nesaf. Nid dim ond slogan yw “Adeiladu i Gymru” i Blaid Cymru, mae’n genhadaeth.


Mae dur yn rhan o’r cytundeb. Roedd. Leanne Wood yn llygad ei lle pan ddywedodd na fyddai Plaid Cymru yn gallu dirnad Cymru heb ddiwydiant dur. Yr ydym felly wedi sicrhau cytundeb y gall y pwerdy gwerth £30m fwrw ymlaen ar safle Tata ym Mhort Talbot, fel rhan o’r cytundeb sydd yn gweld y cwmni hwnnw yn ymrwymo i gynhyrchu dur yn y de. Mae’r cynigion am Fetro Bae Abertawe a’r Cymoedd Gorllewinol, nad oeddent, nes dod i’r cytundeb hwn, yn bolisi swyddogol y llywodraeth, hefyd yn cael arwydd cadarnhaol am amlinelliad o achosion strategol. Bydd Traws Cymru hefyd yn cael ei uwchraddio o fws i gerbyd mwy moethus – newyddion da i deithwyr yng Nghymru wledig. Ymhlith ymrwymiadau economaidd eraill mae arian i helpu busnesau i baratoi am unrhyw effeithiau ddaw o Brexit, a rhaglen am economi sylfaenol.


Erys y GIG yn bwyslais i Blaid Cymru. Yn dilyn ymgyrch gan Steffan Lewis AC, bydd GIG Cymru yn awr yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl i famau sydd newydd esgor. Anfonwyd y gwasanaeth hwn allan o Gymru gan y Llywodraeth Lafur flaenorol yn 2013. Croeso’n ôl!


O ran yr amgylchedd, ymysg ein llwyddiannau allweddol mae materion a godwyd yn uniongyrchol gan Simon Thomas AC dros y misoedd diwethaf megis y cynllun blaendal i wydr a chaniau, seilwaith gwefrio ceir trydan, a’r gobaith o ryddhad 100% rhag ardrethi i gynlluniau ynni adnewyddol cymunedol, fu’n destun ymgyrch gref gan Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AC yn Arfon. Cawsom hefyd gynllun grantiau Ffermwyr Ifanc fydd yn werth £6m dros ddwy flynedd.


Mae’r dimensiwn Cymru gyfan i’r cytundeb ar y gyllideb yn hanfodol. Dyma un o themâu allweddol ein maniffesto. Er lles y Gymraeg ac undod cenedlaethol, rhaid i ni gael Cymru gytbwys. Yn cyfateb i’r pwyslais lleol cryf ar y prosiectau hyn y mae darparu cyllid i sefydlu “Arfor”. Mae gan awdurdodau lleol y gorllewin gyfle i fwrw ymlaen â hyn yn ôl eu hanghenion.

Ac am fy mod wedi crybwyll Cymru gyfiawn, un o’r llwyddiannau amlwg yw gwarchod y grant Cefnogi Pobl. Eleni, cododd Michael Sheen y pwnc yn uwch ar yr agenda wleidyddol, gyda’r Llywodraeth Lafur wedi torri rhaglen Cefnogi Pobl yn y Cynulliad blaenorol. I mi gofio, dyma’r trydydd tro i Blaid Cymru ddefnyddio ei phresenoldeb yn y Cynulliad i warchod grant Cefnogi Pobl. Rwy’n canmol yr ymgyrchwyr a Michael am ddwyn hyn i’n sylw ni oll.

Felly yr hyn welwn ni o enillion Plaid Cymru yn y cytundeb hwn yw egin rhaglen wahanol. Nid oes gennym hyder yn y Llywodraeth Lafur, a byddwn yn ymatal ar eu cyllideb gyffredinol. Bwriadwn alw pleidleisiau a holi cwestiynau ar y pynciau mawr lle na fydd Llafur yn symud, a mynnu eu bod yn cyflawni. Mae hynny’n cynnwys y codiad mewn ffioedd dysgu, Ysgol Feddygol lawn i Fangor, a’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Yr ydym yn adolygu’r “Compact” gyda Llywodraeth Cymru oherwydd hynny a byddwn yn parhau yn wrthblaid.

Rydym mewn hinsawdd wleidyddol lle mae gweithredoedd yr un mor bwysig â geiriau. Rydw i wedi gweithio i roi’r fargen hon at ei gilydd fel cam ar ein taith tuag at ffurfio’r llywodraeth nesaf mewn Senedd Gymreig fwy pwerus. Bydd bod yn wrthblaid â phwrpas yn ein cludo i’r fan honno.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.