Mae gan Gymru bopeth sydd ei angen i fod yn llwyddiant yn y byd sydd ohoni.
Mae gennym ni ddigonedd o adnoddau naturiol a photensial mawr fel pwerdy ynni. Mae ein safle daearyddol yn hynod o fanteisiol - rydym yn wlad ddwyieithog sy'n ran o floc masnachu mwya'r byd. Mae tirwedd a gorffennol ein gwlad yn cydymdreiddio i arddangos cenedl a chanddi gyfleodd aruthrol ym meysydd twristiaeth a'r celfyddydau. Uwch law dim, mae gan bobl Cymru, yn unigol ac yn gydweithredol, record hir fel arloeswyr ac arweinwyr byd-eang.
Cafwyd ton o gyffro a gobaith pan gynullwyd senedd gyntaf Cymru mewn 600 mlynedd ond ni chafwyd gwelliant cyffelyb yn rhagolygon y werin a'r gwelliant disgwyliedig yn ansawdd y gwasanaethau ar eu cyfer. Rhan o'r rheswm am hyn oedd y cyfyngiadau dianghenraid a osodwyd ar allu'r Cynulliad Cenedlaethol i weithredu'n benderfynol. Ond diffyg ewyllys ar ran arweinwyr gwleidyddol ein gwlad a fu'n bennaf gyfrifol am yr agendor rhwng gobaith a chyrhaeddiad.
Gan Blaid Cymru y mae'r syniadau a'r gyriant i godi'r genedl. I ni, cenedl wleidyddol yn ei hawl ei hun yw Cymru a dyna sy'n porthi'n hargyhoeddiad y dylai'n gwlad gael yr offer i weithredu fel cenedl, i arloesi, i greu swyddi ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon rhyngwladol.
Ymysg y cyfleoedd mwyaf cyffrous i genedligrwydd Cymru yw'r cyfle i godi math newydd o gymdeithas. Un sy'n hyrwyddo cyfartalrwydd, yn taclo tlodi, yn creu cyfoeth, yn rhannu cyfoeth ac yn ehangu cyfleoedd bywyd. Drwy fod yn genedl gallwn ni gwrdd â'n rhwymedigaeth i ddinasyddion byd a'r amgylchedd ac i waredu'n dibyniaeth ar danwydd ffosil a'r ymddygiadau sy'n bygwth lles ein planed.
Gallwn ni sicrhau hoen-a-hyder diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd ein cenedl.
Mae Cymru yng nghalon Plaid Cymru ac mae'n gwahodd pawb sy'n caru Cymru i ymuno â ni wrth godi cenedl sy'n deilwng o'i gwerin.
Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd